SL(5)341 - Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017 (“Rheoliadau 2017”).
Mae ceisiadau a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 o dan adrannau 36 a 36C o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu (neu orsafoedd cynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru sydd â chapasiti nad yw’n fwy na 350 megawat, neu a fydd â chapasiti nad yw’n fwy na hynny, i’w gwneud i Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “relevant authority” i ddarparu mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod perthnasol pan wneir cais o dan adran 36 neu 36C (neu pan fo cais o’r fath i’w wneud) i Weinidogion Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r ddarpariaeth sy'n ymwneud â chyrff ymgynghori. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliadau 22 a 28 i fewnosod cyfeiriad at Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019.
Gweithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Craffu ar y rhinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae Rheoliadau 2017 yn cael eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (ac wrth arfer y pwerau a geir yn Neddf 1989). O'r herwydd, bydd Rheoliadau 2017 yn dod yn rhan o gyfraith yr UE a gedwir ar y diwrnod ymadael.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol